Telerau ac Amodau
TELERAU AC AMODAU
Personoli
Ni ellir ad-dalu na chyfnewid gemwaith sydd wedi'i bersonoli oherywdd ei natur unigryw ac wedi'i addasu'n bersonol gennych chi.
Cyn gosod archeb, gofynnir i chi wireddu cywirdeb y manylion. Tra byddaf yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb, ni ellir cywiro unrhyw wallau ar ôl cadarnhau. Nodwch yn garedig bod yr eitemau hyn wedi'u crefftio â llaw, nid â pheiriant, a allai arwain i fân ddiffygion. Yn ogystal, plîs byddwch yn ymwybodol ei bod yn cymryd mwy o amseri gynhyrchu gemwaith wedi'i bersonoli nag ydyw ar gyfer eitemau sy wedi'u masgynhyrchu.
Gwarantu
O fewn ystod o ddeuddeg mis wedi'r dyddiad prynnu, rwy'n ymrwymedig i atgyweirio am ddim neu amnewid unrhyw gynyrch sy'n dangos diffygion o ganlyniad i ddeunyddion neu grefftwaith israddol, ar yr amod ei fod wedi cael ei ddefnyddio a'i gadw yn y modd arferol. Mae'n bwysig nodi nad yw'r warant hon yn cynnwys difrod sy'n deillio o draul & gwisgo rheolaidd. Gofalwch fod gennych brawf prynnu wrth law os gwelwch yn dda.
Eitemau diffygiol
Mae eitemau yn cael eu categorïo fel diffygiol os ydynt yn eich cyrraedd wedi'u difrodi neu os bydd nam gweithgynhyrchu yn digwydd o fewn 3 mis i'r pryniant. Nid yw gemwaith sy wedi'i niwiedio o achos traul & gwisgo normal yn cael ei gyfri yn ddiffygiol. Mae pob eitem yn mynd trwy gweithdrefnau archwilio a rheoli ansawdd cyn cael ei ddanfon o'r gweithdy. Pe byddech yn derbyn yr eitem wedi'i ddifrodi wrth gludo, plîs cysylltwch â ni yn brydlon.
Traul & Gwisgo
Fe'ch cynghorir yn gryf rhag gwisgo unrhyw emwaith tra'n cymryd rhan mewn chwaraeon, gweithgareddau gym, nofio (mewn lleoliad naturiol neu tu fewn), garddio, carthu ceffylau, ffermio, golchi llestri, neu hyd yn oed pan yn cysgu. Y rheswm dros yr argymhelliad hwn yw bod gan doddyddion, canyddion, cemegau cartref a chynhyrchïon glanhau y potensial i beri i arian lychwino, i ddifrodi aur ac i niweidio gemau, yn enwedig cerrig mwy meddal megys Opal ac Emrallt ayb.
Os yw'r cemegau hyn yn dod i gyffyrddiad â gemwaith aur, gallant erydu'r strwythur, sy'n arwain at ddifrod allai beryglu ansawdd a hirhoedledd y darn.
Yn ychwanegol, gall rhai mathau o groen achosi i arian droi'n ddu; ond dim ond amliwio arwynebol yw hyn, y gellir yn hawdd ei ddileu gyda chadach polisio tyner.
Modrwyau â gemau 'NENWEDIG RAI MEDDAL
Mae'n hollbwysig eich bod yn cymryd gofal ychwanegol pan ydych yn gwisgo modrwyau wedi'u haddurno â gemau, oherwydd y gallai unrhyw drawiad neu grafiad niweidio y cerrig a'u gosodiad.
Mae'n bwysig nodi na ellir ailfeintio'r modrwyau hyn unwaith y byddant wedi cael eu gwisgo. Er mwyn cynnal eu harddwch a'u hirhoedledd, argymhellir eu glanhau yn rheolaidd os yw cefn y garreg yn agored. Gellir gwneud hyn drwy socio'r fodrwy mewn d^wr twym gydag ychydig bach o hylif golchi llestr gan ddefnyddio brws dannedd â blew meddal i'w glanhau yn dyner.
Dychweliadau
Rydwyf yn cynnig polisi dychwelyd 14 diwrnod am nwyddau a brynwyd ar lein. Mae croeso i chi ddychwelyd eitem(au) am unrhyw reswm, ar wahân i glustdlysau oherwydd rhesymau hylendyd ac eitemau wedi'u personoli.
Mae'n bwysig eich bod yn cymryd gofal priodol o'r nwyddau yn eich meddiant, gan na allaf gyfnewid neu ad-dalu eitemau sy'n dangos arwyddion eu bod wedi'u trin yn arw neu eu niweidio, neu nad oes ganddynt eu pecynnu gwreiddiol mewn cyflwr y gellir eu gwerthu. Yn y fath achosion, y prynnwr fydd yn gyfrifol am gostau postio dychwelyd.
I gychwyn dychweliad, cysyllter â mi os gwelwch yn dda gyda'ch enw, cyfeiriad, manylion y gemwaith a'r rheswm dros ei ddychwelyd.
Noder, os gwelwch yn dda, na fydd cost postio gwreiddiol yn cael ei ad-dalu onibai fod yr eitem wedi cael ei hanfon mewn camgymeriad neu wedi'i nodi fel un sy'n ddiffygiol neu wedi'i ddifrodi, (ar yr amod fy mod yn cael fy hysbysu o fewn 7 diwrnod i'w dderbyn). Unwaith bydd y dychweliad yn cael ei gymeradwyo, rhaid anfon y gemwaith yn ôl o fewn 28 diwrnod i'w dderbyn, a byddwch yn cael eich ad-dalu o fewn 14 diwrnod i mi dderbyn y nwyddau a ddychwelwyd.
Plîs gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio gwasanaeth cludo y gellir ei olrhain, fel Royal Mail Special Delivery (wedi'i yswirio), gan fod cyfrifoldeb y gemwaith yn parhau gyda chi nes iddo fy nghyrraedd i. Ni ellir fy nal i'n gyfrifol am ddychweliadau a gollir wrth eu cludo.
Gofal
Dros amser, mae arian yn pylu'n naturiol. Mae'n bwysig i gadw'ch gemwaith yn lân ac osgoi cyswllt â hufenau, eli, olewau, persawr, a cholur. Pan nad yn ei wisgo, storiwch eich gemwaith mewn bagiau plastig bach i atal crafu neu tanglo. Awgrymaf eich bod yn storio eich gemwaith i ffwrdd o olau haul uniongyrchol, un ai yn ei becynnu gwreiddiol neu flwch gemwaith.
Gofal Gwyliau
Gwnewch yn siwr eich bod yn gofalu am eich gemwaith drwy ei gadw draw o eli haul ac eli ar-ôl-haul, gan y gall y rhain achosi difrod a phylu. Yn ychwanegol, cynghorir chi i beidio gwisgo eich gemwaith tra'n nofio, gan gynnwys pyllau nofio a jacuzzis gan fod y chlorine sy'n bresennol yn gallu pylu arian. Pan nad yn gwisgo'ch gemwaith, storiwch ef mewn bagiau plastig bach wedi'u selio er mwyn osgoi tanglo ac i sicrhau diogelwch.
